Home Cultura Ffydd, gobaith, cariad

Ffydd, gobaith, cariad

31
0

E nillodd yr awdur a'r milwr Wcreinaidd Artur Dron wobr Ywri Shefelof am ei gyfrol o ysgrifau ‘Ni ŵyr Hemingway ddim byd' (2025) ac yntau'n ddim ond pump ar hugain oed. Mae ei berthynas â llenyddiaeth a chrefydd eisoes wedi eu profi i'r eithaf, fel y mae'n egluro yn y cyfweliad hwn gyda Olena Pshenitshna, a recordiwyd yng Ngorffennaf 2025 yn Lfif, lle roedd yn derbyn triniaeth ar y pryd, ar ôl cael ei anafu yn y rhyfel. Ymddangosodd fersiwn estynedig o'r hyn a gyhoeddir isod yn wreiddiol mewn Wcreineg yn y cyfnodolyn diwylliannol ‘Yr Wcreiniaid'. Bydd Hemingway Knows Nothing, y cyfieithiad Saesneg o'i gyfrol arobryn, yn cael ei gyhoeddi gan wasg Jantar ym Medi 2026.

Yn dy waith rwyt yn siarad cryn dipyn am Dduw, am ffydd, ac am seiliau ffydd mewn rhyfel. Beth yw ffydd i ti, ac nid dim ond ffydd yn yr ystyr grefyddol? A oes modd byw heb ffydd?

Yn un o'r darlleniadau y gwnaethom eu cynnal […] gofynnwyd i mi beth oedd yr hyn roeddwn i'n ei ofni fwyaf. A dyna'r tro cyntaf i mi ystyried y peth. Dwi'n meddwl i mi ddweud bryd hynny mai fy ofn mwyaf yw colli ffydd, yn gyfan gwbl; ym mhopeth. Mae'n frawychus credu mewn dim. Nid yn yr ystyr grefyddol yn unig […] ond yn yr ystyr o ffydd yn gyffredinol. Heb rywbeth i gredu ynddo, mae bywyd i raddau helaeth yn ddiystyr.

Yn dy lyfr rhyddiaith, ‘Ni ŵyr Hemingway ddim byd', rwyt yn cyflwyno'r syniad o ‘Duw'r ffos'. Sut mae'n wahanol i'r Duw tu hwnt i'r ffosydd?

Yn arbennig nawr a thithau'n derbyn triniaeth yn dilyn anafiadau, ac yn dy gael dy hun rhwng dau fyd: y bywyd sifil a'r bywyd militaraidd. Pan wyt yn dy ganfod dy hun mewn rhyfel, mewn ffos, mor agos at gael dy niweidio'n ddifrifol, mor agos at farwolaeth, afraid yw popeth – mae'r holl haenau ychwanegol, dianghenraid wedi eu rhwygo ymaith. Dim ond yr hyn sydd wirioneddol o bwys sy'n aros. Weithiau, mae hyd yn oed syniadau rhywun am ei wlad a'i genedl yn cael eu rhwygo ymaith. Dim ond dy deulu, rhywun rwyt yn ei garu, y person wrth dy ymyl yr eiliad honno, sydd yna. […] Yn aml iawn, mae cwestiynau fel ‘Lle mae Duw a hyn yn digwydd i ni?' yn diflannu, oherwydd yn yr amgylchiadau hynny mae Duw i'w deimlo yn eglur iawn. Mae yno, efo ti, wrth d'ochr. Mae pobl yn dweud pan fo milwyr yn dychwelyd o ryfel eu bod ag ymwybyddiaeth ddwysach o gyfiawnder, didwylledd, haelioni. Ar ôl treulio cymaint o amser heb y pethau dianghenraid, yn yr amgylchiadau dirfodol hynny, dysgom rannu popeth, sefyll ar ein traed dros ein gilydd, edrych ar bopeth fel petai wedi ei ddinoethi. Hynny a ddaethom yn ôl gyda ni.

Yn 2022, roeddet yn sôn yn aml am golli math arall o ffydd, sef ffydd mewn barddoniaeth. Mi wnes di ysgrifennu hyn, hyd yn oed: ‘Wnaiff llenyddiaeth ddim lladd neb, fedr cerdd ddim dy warchod rhag bwled.' Ar ddechrau'r goresgyniad ar raddfa lawn, rhoddaist y gorau'n llwyr i ysgrifennu. Pam nad oedd barddoniaeth yn bwysig mwyach, ar y pryd?

Oherwydd, ar y pryd, daeth pethau mwy ymarferol yn bwysig; roedd angen gweld eu budd diriaethol o safbwynt ein gallu i oroesi. Ac nid dim ond am farddoniaeth roedd hyn. Dwi'n meddwl bod nifer ohonom, ar 24 Chwefror 2022, a oedd wedi ymgolli mewn rhyw alwedigaeth neu'i gilydd nad oedd yn medru peri niwed i'r gelyn, nac yn dy warchod di a'th anwyliaid, yn teimlo nad oedd hynny o fudd. Fedra i ddim dychmygu fy hun ar y diwrnod hwnnw'n meddwl, ‘Iawn, beth am oedi am ennyd i ysgrifennu cerdd, er mwyn cofnodi hyn ar gyfer y cenedlaethau i ddod?' Ar y pryd, roeddem yn chwilio am ffyrdd i wirfoddoli, i fod o ddefnydd ymarferol. Hefyd, roeddem yn meddwl yn syth am ymuno â'r fyddin. Y peth olaf un ar fy meddwl i oedd y gallai rhyw ymateb geiriol gen i i'r goresgyniad fod o ddefnydd. Mi wnes i ysgrifennu fy ngherdd gyntaf ar ôl dechrau'r goresgyniad (mae yn y casgliad barddoniaeth ‘Roeddem yma' [2023; cyf. Saesneg gan wasg Jantar, 2014], o dan y teitl ‘Trisagion') pan welsom y newyddion am yr ysbyty mamau yn Mariwpol.

Ac felly mi ysgrifennais am y tro cyntaf ym mis Mawrth – fallai braidd yn emosiynol, yn fyrbwyll ac yna ddim o gwbl tan ddiwedd Awst neu fis Medi. Ac eto mi ysgrifennaist y casgliad barddoniaeth ‘Roeddem yma' fel milwr, ar y ffrynt. Mi wnes di gyflwyno'r casgliad i'th gyd-filwyr, dy gymrodyr, ac mae'r epigraff yn cynnwys geiriau un ohonynt: ‘Ysgrifenna am yr hyn sydd y tu mewn i ni.' Pryd wnes di deimlo dy ffydd mewn barddoniaeth yn dychwelyd, wedi'r cyfan?

Roedd hynny pan gafodd popeth ei dorri i ffwrdd. Roeddem eisoes ger Cramatorsc, ond doedden ni ddim eto yn ymladd; roeddem yn cloddio llinell amddiffyn rhag ofn i'r Rwsiaid dorri trwodd. Felly, roedd yn gyflwyniad graddol i ganol y rhyfel. Erbyn hynny, ro'n i eisoes yn meddwl cryn dipyn am lenyddiaeth; roeddwn wedi ailddechrau darllen eto, achos cyn hynny, doeddwn i ddim wedi bod yn darllen o gwbl. Ac a dweud y gwir, a phopeth dianghenraid wedi ei rwygo ymaith, pryd bynnag y byddai fy nghymrodyr yn dweud rhywbeth neu'n gwneud rhywbeth arbennig, mi fyddwn i'n clywed fy hun yn meddwl: o, dyma ydi llenyddiaeth, rhaid cofnodi hyn; fallai y gwnaiff rhywun arall weld rhywbeth grymus yn hyn sy'n berthnasol iddyn nhwythau hefyd. Ac weithiau, byddai pethau'n digwydd oedd yn dangos i mi fod llenyddiaeth yn beth mwy difrifol, yn fwy o beth nag oeddwn i wedi sylweddoli.

Rydw i'n hoffi rhoi'r enghraifft sydd yn y casgliad, y darn ynglŷn â Taras Sheftshenco, [1814–1861; bardd cenedlaethol Wcráin], pan welais y newyddion ynghylch sut yr oedd Balacliia [dinas yn rhanbarth Charcif] yn cael ei ryddhau. Mi wnaeth yr hogiau recordio fideo ohonynt yn rhwygo poster propaganda Rwsiaidd ac yn dod o hyd i eiriau Sheftshenco oddi tano: ‘Daliwch i ymladd, ac mi orchfygwch! Mae Duw yn eich cynorthwyo yn eich brwydr.' Mi wnaeth hyn fy syfrdanu, a phan welais y Sheftshenco hwn, y geiriau, deallais fod rhifau negyddol yn bodoli, fel petai, bod modd i meinws dau fodoli, ac nad oedd y broblem yn yr hafaliad ond yn fy anallu i i ddeall. Mewn geiriau eraill, os yw rhywbeth a ysgrifennwyd gan rywun ddau gan mlynedd yn ôl yn dychwelyd mewn ffordd mor gyfriniol, mor annealladwy – na fyddai modd ei egluro mewn unrhyw lyfr oherwydd byddai pobl yn galw'r peth yn ystrydeb – yna mae hynny'n golygu mai dyna'r hyn sydd o bwys. Ac mi wnaeth y newyddion hyn ysgogi ynof gyfres o feddyliau eraill am lenyddiaeth. Cofiais sut y bu i'n canon llenyddol ddychwelyd i ni yn ystod y Chwyldro Urddas [Chwyldro Maidan, Chwefror 2014], sut y gwnaethom eu darlunio [ar ffurf celf stryd eiconig] mewn helmedau efo Molotiv cocktails, sut y gwnaeth pobl eu dyfynnu hefyd jyst cyn marw. Ac felly roeddwn wedi fy argyhoeddi mai'r broblem oedd nid llenyddiaeth ond y ffaith nad oeddwn i wedi deall ei gwir raddfa.

Beth oedd ystyr y profiad o ysgrifennu barddoniaeth ar y ffrynt i ti: ymateb i ddigwyddiadau, i bobl, neu'r awydd i'w cofnodi, eu cadw ar gof?

Mae'n amrywio'n fawr. Byddai darn gen i yn deillio, efallai, o'r awydd i gadw rhywbeth ar go, i'w ddiogelu, rhywbeth a ddigwyddodd i ni, fel ei fod yn cael ei ddiogelu rhag amser […] Mae darn arall yn deillio o foment pan ddwedodd un o fy nghymrodyr rywbeth sydd mor rymus nes na allwn i ddioddef iddo gael ei fynegi ac yna ei weld jyst yn diflannu, achos mi wnes i sylweddoli, heb wybod hynny hyd yn oed, ei fod yn llefaru llenyddiaeth. Mae rhai testunau yn eiriau o ffarwél i bobl nad ydynt yma mwyach, sydd wedi eu lladd; yn ymgais i geisio trawsnewid i ddimensiwn arall y peth mwyaf bywiol a welais ynddynt. Fel yn y gerdd am fy nghyd-filwr Ifan a'i feic. Mewn geiriau eraill, fedr cerdd ddim gwneud iawn am ei farwolaeth – ni ddylem fynnu bod barddoniaeth yn gwneud iawn am unrhyw beth – ond gall ddal gafael ar y mymryn lleiaf o ddidwylledd diniwed y dyn a'i freuddwyd am feic. Wedi'r cyfan, un o amcanion y llyfr hwn ydi mynegi'r hyn sydd y tu mewn i ni.

Pan fydd pobl yn gofyn i ti am farddoniaeth Artur Dron, y dinesydd preifat, yn erbyn Artur Dron, y milwr, rwyt yn dweud bod dy iaith wedi newid yn sylfaenol. Beth yn dy farn di sy'n diffinio iaith lenyddol, llais awdur? Sut beth oedd yr iaith hon cyn y rhyfel, a sut mae'r iaith erbyn hyn?

Mae gen i un egwyddor, ac mae'n aros yn ddigyfnewid, sef ysgrifennu am yr hyn sydd fwyaf o bwys i ti. Fallai na fydd hynny'n bwnc poblogaidd sy'n denu ymateb miliynau ar Facebook, ond mae ysgrifennu am yr hyn sy'n bwysig i ti yn golygu y bydd yr hyn rwyt ti'n ei ysgrifennu yn ddidwyll ac yn onest. Mi gadwais at yr egwyddor hon yn ystod fy nyddiau fel myfyriwr yn fy llyfr ‘Neuadd rhif 6' (2020), ac wedyn pan es yn filwr, gyda'r casgliad o gerddi ‘Roeddem yma', ac rydw i'n cadw at yr un egwyddor o hyd. Ond oherwydd fod y pethau hanfodol hyn yn newid drwy'r adeg, roedd hynny yn naturiol yn arwain at newid yn yr iaith hefyd. Gyda'r llyfr cyntaf, y peth pwysicaf i mi oedd arsylwi ar fywyd ifanc a rhydd – syrthio mewn cariad am y tro cyntaf, ffraeo, pobl yn darganfod ei gilydd ac yn gwthio ei gilydd i ffwrdd; pethau ieuenctid, ystrydebol yn aml, telynegol, rhamantaidd. Dyna oedd bwysicaf i mi, a dyna wnes i ysgrifennu amdano. Yn amlwg, erbyn 2022 neu 2023, roedd rhywbeth arall o'r pwys mwyaf: y dibyn parhaus, y profiad hwn o ffarwelio, ymdeimlad o ddeisyfu dwys dros bellter rhyngot a'th anwyliaid, a rhyw fath o frawdoliaeth ddofn gyda phobl na ddaethost i'w hadnabod ond yn ddiweddar. Ac mae hyn mor sylfaenol wahanol i'r hyn roeddwn i'n ysgrifennu amdano'n flaenorol nes ei bod yn anorfod fod yr iaith yn newid hefyd. Aeth yn fwy cryno, yn fwy pendant, yn fwy cwta. Mae pob gair mewn barddoniaeth o bwys, ac wrth ysgrifennu barddoniaeth, yn arbennig mewn rhyfel, rhaid i bob gair gael ei drin gan feddwl mai hwnnw, o bosib, fydd y gair olaf a gaiff ei yngan. Does wybod beth ddaw yfory neu ymhen 30 eiliad. Ac wrth drin pob testun fel yr olaf y byddi'n ei ysgrifennu, yn ei ddweud yn dy fywyd, mae'n warant o'r didwylledd a'r gonestrwydd dyfnaf. Mae'r ddirfodaeth hon, ei natur drothwyol, yn cynyddu pwysau'r geiriau, gan eu dinoethi o unrhyw beth diangen. […] Pan mae'r diangen yn diflannu, ceir didwylledd dwfn yn dy iaith.

Rydym yn aml yn gweld ar y cyfryngau cymdeithasol fod milwyr Wcráin yn darllen hyd yn oed yn eu llochesi tanddaearol. Beth mae darllen mewn amgylchiadau o'r fath yn ei olygu? Pwy oeddet ti'n ei ddarllen ar y ffrynt, pwy oedd yn cadw dy draed ar y ddaear, a phwy oedd yn rhoi ffydd i ti?

Nid yw bod mewn rhyfel yn golygu darllen dim ond yr hyn sy'n codi ysbryd neu lefel d'ymwybyddiaeth genedlaethol. Mewn rhyfel, fel ag mewn bywyd sifil, gall darllen fod yn ffurf ar ddifyrrwch, yn ffordd i ymladd diflastod. […]

Mae dy destunau di ymhlith y dystiolaeth fwyaf grymus o'r rhyfel hwn. Ac mae a wnelo grym y dystiolaeth hon â'r holl gariad rwyt ti wedi llwyddo i'w weu i bob stori. Hyd yn oed mewn straeon o farwolaeth a cholled, mae cariad yn aros yn sylfaen i bopeth. Beth yw cariad i ti? Lle mae'n byw? A sut wyt ti'n llwyddo i gadw ffocws arno pan mae cymaint o anghyfiawnder ym mhobman?

Rydw i bob amser wedi cadw at yr egwyddor bod cariad yn ein cyfeirio at yr ateb cywir ym mhob cyd-destun. Er enghraifft, pan fo rhyfel o bwys yn dechrau, rydym dan ymosodiad, ac maent am ein lladd i gyd – beth fyddai'r mynegiant eithaf o gariad ar adeg felly? Gadael popeth ar ôl, sefyll ac amddiffyn. Rwyt mewn rhyfel, mae'r diwrnod yn un dychrynllyd, poenus, rwyt wedi dychryn yn ofnadwy – beth yw'r mynegiant uchaf o gariad? Fy mam, fy nghariad, rydw i jyst yn meddwl amdanyn nhw. Ac mae hynny yn rhoi rhyw fath o nerth i ti nad oeddet yn gwybod ei fod yno.

Wnei di ddim colli golwg ar gariad oherwydd mae'n amlygu ei hun mewn amrywiol ffyrdd. […] Er enghraifft, dyna lle'r oeddem, yn gorwedd ar lawr y goedwig yna yn Serebriansci, mewn ffos fechan â lle dim ond i ddau ar y mwyaf, ond roedd tri ohonom wedi ein gwasgu yno, gefn wrth gefn, ac yn taflu un sach gysgu sengl drosom, roedd hi'n ugain gradd o dan y pwynt rhewi, a ninnau'n tanio yr un sigarét oedd gennym rhyngom i'n cadw ni i gyd yn gynnes. Ac mae hynny'n deimlad mawr o gariad.

Neu – mae hyn yn ‘Ni ŵyr Hemingway ddim byd' – rydw i'n adrodd pum breuddwyd ac yn gorffen efo ein hanes yn deffro yng nghoedwig Serebriansci, pan mae fy nghyd-filwr yn dweud: ‘Davydenko Davyd Davydovych!' [Enw rhyfel yr awdur yw ‘Davyd'.] Dduw mawr, rydw i'n deffro ar ymyl dibyn y byd, mewn rhyfel, ein reifflau ymosod wrth ein hochrau, popeth wedi ei orchuddio â budreddi, dŵr yn diferu ym mhob man, wir. Ac mae o jyst yn eistedd yn fan'na, yn ysmygu, y fynedfa wedi ei gorchuddio â rhyw flanced, ac yn dweud: ‘Cwyd ar dy draed, maen nhw'n dod yn barod i gymryd ein lle, dim ond deuddeng munud sydd ac mi fyddan nhw yma.' Y foment honno, gwyddwn y byddwn yn ysgrifennu am hyn mewn llyfr ryw ddydd, ac mi wnes i hynny ymhen amser; roeddwn yn teimlo'r fath gariad at Cesha, mwy nag a deimlais at unrhyw un erioed.

Neu ein cyd-filwr, Andrii Teodorofych, person o'r anhunanoldeb mwyaf. Pan fo pawb ar lwgu, mae'n agor pecyn o fisgedi, tydi o ddim yn bwyta'r un ei hun, ac mae'n eu pasio o gwmpas i bob un yn ei dro, fel hyn: os oes un ar ôl, mi gym'ra i o, ac os nad oes, wel, wna i ddim. Ac mae hynny, hefyd, yn fynegiant aruthrol o gariad. Nid cariad mewn ystyr haniaethol, fawreddog ydi o, ond cariad yn yr ystyr hon, sef pobl yn rhannu eu mymryn olaf o fwyd.

Mi weles i lawer o gariad yn yr ysbytai ar ôl cael fy anafu. Pan oedd hogiau oedd wedi dioddef anafiadau cymhleth, gan gynnwys colli eu coesau a'u breichiau, yn codi ysbryd ei gilydd ac yn ceisio gwneud i'w gilydd chwerthin rywsut – mae'r rhain i gyd yn enghreifftiau bychain, bob dydd, o gariad mawr sydd, mewn gwirionedd, yn sail popeth. Mae yna gymaint o enghreifftiau o'r pethau hyn. Dyna pam rydw i'n dweud na ellir colli golwg arnynt os wyt wedi eu gweld, eu profi unwaith; maent yn rhoi ystyr, yn adfer ffydd ac yn dangos fod y cyfan o bwys wedi'r cwbl.

Rwyt yn siarad cryn dipyn am bwysigrwydd y cof. Yn dy destunau, rwyt yn disgrifio'r cof hwn yn fanwl, yn llythrennol yn galw pobl wrth eu henwau, yn fwy na dim enwau dy gyd-filwyr. Pam fod hyn mor bwysig i ti? Beth mae cadw pobl a digwyddiadau ar gof yn ei olygu i ti?

Un o fy mhryderon dyfnaf ydi ofn anghofio. Rydw i'n cofio pan ddechreuais boeni am hyn am y tro cyntaf yn 2023, ar ôl peth amser ar y ffrynt, ac ar ôl y troeon cyntaf y cefais fy nharo ar fy mhen yn arw. Pan aethom allan i'r frwydr y troeon cyntaf hynny, gan ddod wyneb yn wyneb â rhywbeth gwirioneddol frawychus ac anodd am y tro cyntaf un, roedd yn ymddangos i mi ar y pryd na fyddwn i fyth yn anghofio pethau o'r fath. Ond yng ngwanwyn 2023, dechreuais sylwi fy mod yn cael trafferth cofio digwyddiadau hydref 2022, ac mi wnaeth hynny greu panig ynof. Yn nes ymlaen yn y llyfr, mi fyddwn yn dweud: mae cofio hyn i gyd yn ddychrynllyd, ond gwaeth fyth ydi anghofio. Ar y pryd, yn 2023, gyda llaw, dechreuais gadw dyddiadur i gadw cofnod o bopeth, er mwyn ei roi ar gof. Dyma oedd fy mrwydr yn erbyn yr ofn hwn.

Mae'n ymddangos i mi fod cofio a diogelu pethau ar gof yn un ffordd o ennill, un ffordd o wneud iawn am rywbeth. Digon gwir, wnaiff ysgrifennu fyth ddod â neb yn ôl i ti, wrth gwrs, ond mae yna rywbeth am jyst eistedd i lawr ac ysgrifennu am y person yna. Dyna ydi llenyddiaeth i mi – adrodd stori am rywun. Ac rydw i'n ddiolchgar i Dduw am hynny, i'r byd, a'r amgylchiadau, yn arbennig am allu defnyddio'r sgil hon i ddweud stori rhywun. Achos rydw i wedi dod ar draws nifer o bobl na wnân nhw ddweud eu stori eu hunain; o'r enghreifftiau cyffredin a thrasig, sef na wnân nhw adrodd eu stori oherwydd tydyn nhw ddim yma mwyach, i'r sefyllfaoedd mwy cymhleth, sef na wnân nhw adrodd eu stori oherwydd nad ydyn nhw'n gwybod sut i'w rhoi mewn geiriau, oherwydd nad ydyn nhw'n meddwl fod hynny'n bwysig, oherwydd bod arnynt ofn. […]

Yn y gerdd ‘Y Corinthiaid cyntaf', mae yna frawddeg: ‘lapiwyd cariad mewn sachau cysgu a'i gario allan'. Dyma oedd ein profiad cyntaf o drasiedi, wrth symud y rhai a laddwyd. Doedd dim modd eu cario allan ar welyau cludo, felly mi wnaethom lapio cyrff ein cyd-filwyr mewn sachau cysgu. A dyna'n union sut y gwnes i ysgrifennu hyn yn y gerdd. Yn nes ymlaen, mi ysgrifennodd dynes ata i; doedden ni ddim yn adnabod ein gilydd. Mi yrrodd neges i mi ar Facebook yn egluro pwy oedd hi, ei bod wedi darllen y gerdd, ac yn gwybod i mi wasanaethu yn yr un bataliwn â'i gŵr, ac roedd am roi yn anrheg i mi ei llyfr amdano. Mi ddwedodd fod y gerdd hon yn arbennig o bwysig iddi hi, achos pan mae hi'n darllen am y sachau cysgu, mae hi'n teimlo ei bod rywsut yn dysgu mwy ynghylch sut y bu i'w gŵr farw, sut y cafodd ei dynnu allan o'r gyflafan – fel petai'r gerdd amdano fo. Wnes i ddim ei hateb am wythnos; mi wnes i ymgynghori â'r hogiau ynghylch beth i'w wneud, oherwydd corff ei gŵr oedd y corff y gwnaethom ei gario allan y tro hwnnw. Doeddwn i ddim yn ei adnabod pan oedd yn fyw; doedd o ddim yn gwasanaethu yn fy uned i ond mewn uned arall. Ond ar y pryd, roedd o'n gwasanaethu yn ein safleoedd ni, ac yn wir, fo oedd un o'r rhai cyntaf i gael ei ladd. A dweud y gwir, y fo oedd y cyntaf i ni ei dynnu o'r ffos a'i gario i ffwrdd. Yn y diwedd, mi wnes i ysgrifennu'n ôl a dweud wrthi, ac mi wnaeth yrru'r llyfr i mi amdano. Ei enw rhyfel oedd Orel [‘Eryr' mewn Wcreineg]; enw ei llyfr oedd ‘Ynys Orel'. Mae'n llyfr arbennig o rymus. Ac mae hynny'n enghraifft arall o sut mae llenyddiaeth yn gweithio – mewn ffordd nad ydw i eto'n ei deall yn iawn.

Mi ddwedaist unwaith mai ‘cerdd efallai yw'r hyn y dylai person fod wedi ei ddweud wrth rywun ond na lwyddodd i'w ddweud'. Beth am ryddiaith?

Mae rhyddiaith, yn fy meddwl i, yn sgwrs ychydig yn hwy sy'n mynd i fwy o feysydd na barddoniaeth. Wedi'r cyfan, mae cerdd yn ffurf ddwys, emosiynol, gryno lle rwyt ti'n ymdrin ag un thema sydd o bwys gwirioneddol. Mae rhyddiaith yn wahanol. Mae'n sgwrs hwy, fwy tawel, lai emosiynol, lle gellir codi nifer fawr o faterion a siarad am amrywiol bethau. I mi, dyna sut mae wedi gweithio bob tro: mae yna rywbeth rydw i am ysgrifennu yn ei gylch ac wedyn rydw i'n penderfynu pa ffordd sydd orau i'w fynegi – boed hynny'n gerdd sy'n odli neu'n gerdd ddi-odl. Ond wrth i amser fynd heibio, mi sylweddolais fod modd mynegi rhai pethau yn well yn benodol drwy gyfrwng rhyddiaith.

Cafodd y casgliad ‘Roeddem yma' ei greu ar y ffrynt. Sut y cafodd dy lyfr rhyddiaith ei greu? Ac ydi'r iaith yno yn wahanol i iaith y testunau eraill?

Yn syth wedi i mi yrru llawysgrif y llyfr barddoniaeth i'r cyhoeddwr yn haf 2023, yn llythrennol y diwrnod wedyn, mi benderfynais y byddai fy llyfr nesaf yn gasgliad o ryddiaith efo'r teitl ‘Ni ŵyr Hemingway ddim byd'. Rydym wedi arfer efo'r ffaith fod yna lenyddiaeth fawr sy'n gysylltiedig â rhyfel wedi bodoli bob amser, a'r awduron mwyaf amlwg i mi oedd Remarque a Hemingway. Dyna roeddwn i'n arfer ei gredu. Ond pan aethom drwy'r profiad o'n rhyfel ein hunain, ar raddfa fawr, cafodd fy nirnadaeth o lenyddiaeth rhyfel ei throi ben i waered, ac mi ddechreuais gwestiynu'r testunau hyn. Pan oeddem wyneb yn wyneb â'r her o oroesi ein rhyfel go iawn ein hunain, aeth yr awduron hyn yn amherthnasol.

Roedd Hemingway yn bwysig i mi'n bersonol trwy gydol fy ieuenctid. Roeddwn yn ei werthfawrogi'n fawr. Hyd yn oed ar ddechrau 2022, roeddwn yn dal i gredu ynddo. A phan gefais fy hun ar y ffrynt, roedd yna dipyn o Hemingway ar ôl o hyd; mi fyddwn i'n sôn wrth yr hogiau am rai o'i lyfrau. Fuodd o erioed yn ffactor yn fy mhenderfyniad i fynd i ymladd, ond fo oedd fy hoff awdur. Ond, wnaeth o ddim goroesi y rhyfel rhwng Rwsia ac Wcráin. Pan wnes i fyw trwy hynny, yn rhan ohono, mi sylweddolais nad oedd Hemingway, wedi'r cyfan, wedi dod wyneb yn wyneb ag unrhyw beth tebyg i hyn. Roedd ei ryfel cyntaf yr ochr arall i'r cefnfor iddo; yn sylfaenol, doedd o ddim yn fygythiad i'w rieni na'i berthnasau. Ond yn achos hogiau 'fath â fi, a aeth i ryfel yn ifanc iawn, aethon ni ddim oherwydd ein bod am chwarae'r arwr, sef yr union beth mae Hemingway yn ei wneud. Roedd o am fod yn arwr, amsugno'r teimlad yna, ac wedyn mi dreuliodd ei holl fywyd yn ysgrifennu am hynny; roedd yn rhoi'r argraff ei fod yn condemnio rhyfel, ac eto roedd o bob amser yn chwilio am ryfel, ac rywsut yn ei ramantu. Rydw i'n ysgrifennu hynny'n union yn fy llyfr: mi aeth i ryfel rhywun arall oherwydd ei fod o'n dymuno hynny, mi aethom ni i'n rhyfel ein hunain oherwydd nad oedd dewis gennym, oherwydd fod y rhyfel hwn yn fygythiad i ni'n benodol, a bu rhaid i ni dyfu i fyny'n gyflym iawn a sylweddoli ein bod eisoes yn gallu sefyll a gwarchod ein tadau a'n mamau. Wynebodd Hemingway erioed hynny; wyddai o'r nesaf peth i ddim am hynny.

Mi feddyliais gryn dipyn am yr holl bethau hyn; roeddwn am ysgrifennu am ryfel nad oedd Hemingway na Remarque, na Vonnegut, na Jünger, na neb arall, oni bai amdanom ni, wedi ei weld. Ar y dechrau, dim ond dau neu dri darn wnes i eu hysgrifennu. Erbyn hynny, roeddwn i wedi cael llond bol ar y fyddin i'r fath raddau nes fy mod wedi ymlâdd, yn llusgo fy hun drwy'r drefn filitaraidd gyda fy mymryn olaf o nerth. Penderfynais fod ysgrifennu am hynny yn ffurf ar hunanfflangellu ac y byddai hynny'n anniffuant, felly rhoddais y gorau i ysgrifennu. Yna, yng ngwanwyn y llynedd, deuais yn ôl o'r rhyfel ar gyfer triniaeth feddygol, cefais driniaeth ar fy nghalon, cefais seibiant o'r rhyfel am resymau meddygol, cyfle i wella fy iechyd, clirio fy mhen ryw ychydig, ailgychwyn gymaint ag y medrwn, ac yna, yn y gwanwyn, mi ysgrifennais ddau ddarn arall ar gyfer Radio Culture. Ar ôl hynny, gweithiais ar y llyfr bob yn dipyn yn ystod cyfnodau o seibiant, yn rhanbarth Charcif, ac yn rhanbarth Zaporijia. Ond roedd y rhan fwyaf o'r gwaith wedi ei wneud ar ôl i mi gael fy anafu, wrth i mi dderbyn triniaeth dros y gaeaf. Dyna pryd y gosodais nod i mi fy hun – sef gorffen y llyfr erbyn y gwanwyn.

Roeddwn yn arfer bod yn amheus o'r holl siarad yma am ysgrifennu fel ffurf ar seicotherapi ac ati, ond gydag amser rydw i wedi cael f'argyhoeddi fod hynny'n wir. Roeddwn i wirioneddol am i'r llyfr hwn fod yn fath o sesiwn seicotherapi. Rydw i hyd yn oed yn dangos sut mae un dull o'r fath yn gweithio: therapi ‘dadleniad estynedig'. Caiff ei ddefnyddio'n aml i drin PTSD, yn arbennig gyda milwyr sy'n dychwelyd o ryfel. Ystyr hynny ydi adrodd yr un hanes trawmatig drosodd a throsodd. Rwyt yn gosod dy hun gerbron y profiad, gan geisio ei ail-greu a'i gofio hyd at y manylyn lleiaf. A phob tro, mi fydd dy stori'n wahanol; bydd manylion eraill yn dod i'r wyneb, ac mi fyddi'n cofio pethau yr oeddet wedi eu hanghofio, neu wedi eu cuddio oddi wrthyt dy hun. Mae'n broses emosiynol arbennig o anodd ond diddorol, oherwydd gelli ddarganfod yr atebion i rai o'th gwestiynau yn y gwahaniaethau rhwng y straeon, ac felly, dros amser, ryddhau dy hun ohoni. Gyda'r llyfr hwn, roeddwn i wir am ddangos sut mae gwneud hyn, dangos bod modd gosod dy hun gerbron ofn, gerbron trawma, gerbron poen, ei alw wrth ei enw, edrych i fyw ei lygaid, ceisio wynebu'r ofn, a siarad, siarad, siarad, er mwyn dod yn rhydd, o'r diwedd. Rydw i'n adrodd llawer o bethau poenus a phersonol yn y llyfr. Tystiolaeth milwr ydi'r llyfr am brofiadau mewn rhyfel sy'n rhyfel o bwys. Dyna'n union sut rydw i'n ei ddiffinio – llyfr y tystiolaethau.

Am iaith y rhyddiaith o'i chymharu â'r farddoniaeth – mae'n anodd dadansoddi'r gwahaniaeth, oherwydd dyma'r tro cyntaf rydw i'n ysgrifennu yn y genre yma. Ond gallaf ddadansoddi beth sy'n gyffredin rhyngddynt. Mae'n ymddangos i mi fy mod i'n dal i geisio cynnal yr un lefel o ddidwylledd a diffuantrwydd. Rydw i'n dal i gadw ffocws yr iaith ar eraill, gyda'r enwau a'r manylion. Mewn barddoniaeth, mae manylion yn hynod bwysig, ac yma hefyd, maent yn dal i fod yn hanfodol i mi.

Yn olaf, hoffwn ddyfynnu dy gerdd, sy'n gorffen efo cwestiwn: ‘Rydw i'n meddwl am y bocs yna wnes di sôn amdano. Sut wnes di bacio'r pethau hynny? Sut wnes di fyw efo hynna i gyd?' Oes gen ti dy ateb dy hun i'r cwestiwn sut yr ydym yn gallu byw efo'r profiad hwn ac ailddarganfod ffydd, gobaith a chariad oddi mewn i'r profiad?

Does gen i ddim ateb parod. Ond pan nad oes ateb parod, rhaid ystyried pa lwybr sy'n cynnwys y mwyaf o gariad, beth fyddai cariad ynddo'i hun yn ein cyfeirio ato mewn unrhyw sefyllfa sydd o'th flaen. Siawns na fyddai yn ein cyfeirio at y ffaith na ddylem rwygo ein gilydd yn ddarnau. Mae ein profiadau bob un yn wahanol. Digon gwir mai'r un ydi'r achos, sef rhyfel, ond mae'r profiadau er hynny yn wahanol iawn. Weithiau, maent mor wahanol hyd yn oed oddi mewn i'r un teulu. A'r peth pwysicaf yw peidio dechrau ymosod yn ddiangen ond chwilio am ddealltwriaeth a cheisio trafod pethau'n drylwyr. Beth arall fyddai cariad yn siŵr o'n cyfeirio ato? Ymdeimlad o gyfrifoldeb. Fallai fod hynny'n swnio'n gymhleth, ond dyna'n union sut mae cariad aeddfed yn ymateb mewn amgylchiadau anodd. Mae angen i bawb fod yn gyfrifol am ryw ddarn bychan o'r hyn sy'n digwydd. Weithiau tydi cariad ddim am bethau rhamantaidd, ysgafn. Weithiau, mae a wnelo â'r cyfrifoldeb i warchod d'anwyliaid.